Hiroshige
1797 - 1858
Roedd Utagawa Hiroshige, a aned yn Edo ar ynys Honshu, yn arlunydd Siapaneaidd yn yr ysgol ukiyo-e, ac yn un o'r artistiaid mawr olaf yn y traddodiad hwnnw. Defnyddiai hefyd yr enwau proffesiynol "Andō Hiroshige" (安藤広重) - neu, yn anghywir "Andro Hiroshige" - ac "Ichiyusai Hiroshige").
Cafodd ei hyfforddiant artistaidd dan law yr hen feistr ukiyo-e Toyohiro (1774-1829).
Ar ddechrau ei yrfa arbenigai Hiroshige mewn porteadau o ferched. O tua 1830 ymlaen dechreuodd droi ei law at ddarlunio tirluniau rhamantaidd, yn aml dan eira, yn y glaw neu yng ngolau'r lleuad.
Wikipedia, 2023