The Last of Old Westminster
James McNeill Whistler

James McNeill Whistler

1834 - 1903

Arlunydd ac awdur Americanaidd oedd James Abbott McNeill Whistler a fu'n weithgar yn Lloegr o 1859 hyd at ddiwedd ei oes.

Treuliodd ei fagwraeth yn ei ardal enedigol Lloegr Newydd, yn Rwsia lle'r oedd ei dad yn gweithio fel peiriannydd sifil, a chyda'i deulu yn Lloegr. Ymunodd â Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau am gyfnod ond nid oedd ei gymeriad yn addas at fywyd milwr. Bu Whistler yn ymddiddori mewn arlunio ers ei blentyndod, ac yn 1855 i Baris i ddysgu paentio. Symudodd Whistler i Lundain yn 1859 ac yno daeth yn amlwg fel dyn arabus a ffasiynol. Yn y 1860au symudodd Whistler rhwng Lloegr a Ffrainc, gan weithio yn y ddwy wlad. Ei beintiad cyntaf i dynnu sylw oedd Symphony in White, No. 1: The White Girl (1861-2), a gafodd ei arddangos yn y Salon des Refusés ym Mharis yn 1863. Dyn cwerylgar oedd Whistler yn aml, a bu sawl ffrae rhyngddo â'r beirniaid celf, gan gynnwys ei achos llys enwog yn erbyn John Ruskin yn 1877.

Erbyn diwedd ei yrfa, clodforwyd Whistler am ei ddawn dylunio, ei ddefnydd coeth o liw, a'i allu technegol o ran peintio ac ysgythru, yn ogystal â'i lithograffau, lluniau dyfrlliw, a phastel-luniau. Ymhlith ei beintiadau enwocaf mae ei bortread o'i fam Arrangement in Grey and Black No. 1 (1871) a'i nosluniau o Lundain. Arddangosir ei waith mewn orielau yn Llundain, Paris, Pittsburgh, Washington, D.C., Chicago, a Dinas Efrog Newydd. Cedwir nifer o'i beintiadau yn Oriel Gelf Freer yn Washington, ac yno hefyd mae'r Peacock Room, ystafell a ddyluniwyd gan Whistler mewn arddull sy'n rhagweld art nouveau.

Yn ogystal â'i gelf, ysgrifennodd Whistler sawl darlith feirniadol, gwirebau, ac ysgrifau ar bynciau amrywiol. Nodweddir ei lenyddiaeth gan ffraethineb egr. Cafodd ei ddarlith The Ten O'Clock (1888) ddylanwad pwysig ar ddamcaniaeth celf, ac roedd Whistler yn gyfrifol yn bennaf am gyflwyno celf fodern o Ffrainc, yn enwedig Argraffiadaeth, i Loegr. Ei lyfr enwocaf yw The Gentle Art of Making Enemies (1890), casgliad o adolygiadau gan ei feirniaid ochr yn ochr ag atebion pigog gan Whistler.

Wikipedia, 2024