The Skiff (La Yole)
Pierre-Auguste Renoir

Pierre-Auguste Renoir

1841 - 1919

Arlunydd Ffrengig oedd Pierre-Auguste Renoir. Bu'n un o brif arlunwyr y grŵp Argraffiadol (Ffrangeg: Impressionnisme). Datblygodd dechneg o waith brwsh toredig, manwl gyda chyfuniad o liwiau a oedd yn cydweddu er mwyn dal symudiad a golau. Yn dilyn ei ymweliad â'r Eidal ym 1881 newidiodd ei steil i fod yn fwy clasurol.

Priododd, ym 1890, â Aline Victorine Charigot, model yn y paentiad Le Déjeuner des canotiers.

Bu'n dad i'r actor Pierre Renoir (1885-1952), y cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir (1894-1979) a'r crochenydd Claude Renoir (1901-69). Yn daid i'r gweithiwr ffilm Claude Renoir (1913-1993), mab Pierre.

Cafodd ei eni yn Limoges, Haute-Vienne, Ffrainc i deulu tlawd. Dechreuodd weithio fel peintiwr ar borslen. Symudodd i Baris, gan ymuno â stiwdio'r arlunydd ffasiynol Charles Gleyre tua 1861-2. Ym Mharis cyfarfu â Claude Monet ac ym 1869 dechreuodd y ddau weithio gyda'i gilydd yn sgetsio wrth Afon Seine.

Bu'n anhapus gyda'r system swyddogol Salon a oedd yn araf i arddangos gwaith newydd a mentrus. Ym 1873 bu Renoir ymhlith y grŵp o artist, yn cynnwys Claude Monet, Camille Pissarro, Paul Cézanne, a ffurfiodd y Société Anonyme Coopérative des Artistes Peintres 6 o gynfasau mewn arddangosfa'r Société Anonyme a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel yr arddangosfa Impressionniste (Argraffiadol) gyntaf.

Yn ystod y 1880au teithiodd Renoir dramor, yn ymweld â'r Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Lloegr, Yr Almaen ac Algeria. Bu'n edmygwr mawr o Raffael, Diego Velázquez, a Peter Paul Rubens, a bu'n ddylanwad ar ei waith.

Ar ddiwedd ei oes, dioddefodd arthritis a bu rhaid clymu ei frwsh i'w law er mwyn iddo ei ddal.

Ym 1919, blwyddyn olaf ei fywyd, prynodd oriel fwyaf Paris y Louvre un o'i luniau, anrhydedd mawr iddo ac yn arwydd o'r sefydliad celf yn derbyn gwaith Impressionniste o'r diwedd.

Mae dau o ddarluniau Renoir wedi'u gwerthu am fwy na $70 miliwn dolar. Gwerthwyd Bal au moulin de la Galette am $78.1 miliwn ym 1990, un o'r darluniau drytach y byd ar y pryd.

Yn 2012, cafodd un o gynfasau Renoir Paysage bord du Seine ei rhoi ar werth mewn ocsiwn ond ddarganfuwyd a gafodd ei ddwyn o Oriel Gelf Baltimore ym 1951 a fe'i dynnwyd yn ôl o'r farchnad.

Wikipedia, 2024

Dangosir yn