Victor Hugo
1802 - 1885
Bardd a nofelydd oedd Victor-Marie Hugo a anwyd yn Besançon, Doubs.
Mae'n un o brif lenorion Ffrainc, ac yn awdur toreithiog iawn.
Yn ddyn ifanc roedd Hugo yn edmygydd mawr o waith yr epigramydd o Gymro John Owen. Cyfansoddodd epigram byr sy'n aralleirio un o gerddi John Owen (Imitation d'Owen), a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn llenyddol Conservateur littéraire (Ebrill, 1820).
Wikipedia, 2023