Joshua Reynolds
1723 - 1792
Arlunydd Seisnig dylanwadol oedd Syr Joshua Reynolds RA FRS FRSA a oedd yn arbenigo mewn portreadau olew. Roedd yn sefydlydd ac yn Llywydd cynta'r Academi Frenhinol ac fe'i gwnaed yn Farchog gan George III yn 1769.
Paentiodd Syr Joshua bortread Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig gyda'i ail wraig mewn gwisg theatrig, ac un arall o'i wraig a'i blant, tua 1778.
Wikipedia, 2024