Object Image

Salvator Mundi

Peintiad olew gan Leonardo da Vinci yw Salvator Mundi sydd yn portreadu Iesu Grist yn dal pêl. Cafodd ei ddyddio i'r 1500au. Cafodd ei gofnodi yng nghasgliad celf Siarl I, brenin Lloegr, ym 1649 cyn iddo gael ei arwerthu gan fab y Dug Buckingham ym 1763. Diflannodd y peintiad nes iddo gael ei brynu gan y casglwr Syr Frederick Cook ym 1900, ond yr oedd yr arlunydd yn ansicr. Cafodd ei werthu gan ddisgynyddion Cook mewn ocsiwn ym 1958 am £45 ac yna daeth o dan berchenogaeth cydgwmni o ddelwyr celf Americanaidd yn 2005. Cafodd yna ei gydnabod yn un o weithiau da Vinci.

Yn 2017 cafodd y llun ei werthu am £341 miliwn mewn ocsiwn, y swm uchaf erioed am waith celf mewn ocsiwn neu werthiant preifat.

1500
Oil on walnut wood
65.6 x 45.4cm
Llun a thestun trwy garedigrwydd Wikipedia, 2023

Ble byddwch chi'n dod o hyd i hwn

Louvre Abu Dhabi
Louvre Abu Dhabi
Casgliad barhaol