Object Image

Y Swper Olaf (Leonardo)

Llun gan Leonardo da Vinci yw Y Swper Olaf. Gyda'r Mona Lisa, mae'n un o weithiau enwocaf Leonardo.

Mae'r llun yn furlun yn hen ffreutu abaty Dominicanaidd Santa Maria delle Grazie, ym Milan. Peintiodd Leonardo'r llun, sy'n darlunio'r Swper Olaf o'r Testament Newydd, rhwng 1495 a 1498, ar gais Ludovico Sforza, arglwydd Milan. Mae'n 460 x 880 cm o ran maint.

Yn rhannol oherwydd presenoldeb y llun hwn, mae'r abaty wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

c. 1495-c. 2007
Tempera on gesso, pitch and mastic
Q128910
Llun a thestun trwy garedigrwydd Wikipedia, 2023