Object Image

Dyn Vitruvius

Darlun a wnaed gan y polymath Leonardo da Vinci tua 1490 yw Dyn Vitruvius (Eidaleg: l'uomo vitruviano [ˈlwɔːmo vitruˈvjaːno]; a elwir yn wreiddiol Le proporzioni del corpo umano secondo Vitruvio (yn llythrennol: 'Cyfrannau o'r corff dynol yn ôl Vitruvius'). Dilynir gan nodiadau yn seiliedig ar waith y pensaer Rhufeinig, Vitruvius. Mae'r darlun, a wnaed ag inc ar bapur, yn dangos dyn mewn dau ystum trosargraffedig gyda'i freichiau a'i goesau ar led mewn cylch a sgwâr. Mae'n cynrychioli cysyniad Leonardo o'r cyfrannau corff dynol delfrydol.

Cyhoeddwyd gyntaf mewn atgynhyrchiad ym 1810. Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd y darlun ei enwogrwydd presennol nes iddo gael ei atgynhyrchu eto ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nid yw'n amlwg a oedd wedi dylanwadu ar arfer artistig yn adeg Leonardo neu'n hwyrach. Fe'i cedwir yn Gabinetto dei disegni e delle stampe y Gallerie dell'Accademia, yn Fenis, o dan gyfeirnod 228. Fel yn achos y mwyafrif o weithiau ar bapur, dim ond yn achlysurol y'i arddangosir i'r cyhoedd, ac nid yw'n rhan o arddangosfa arferol yr oriel. Yn ddiweddar, roedd y gwaith i'w weld yn yr arddangosfa o waith Leonardo yn y Louvre, Paris, rhwng 24 Hydref 2019 a 24 Chwefror 2020, fel rhan o gytundeb rhwng Ffrainc a'r Eidal.

Testun a theitl Mae'r ddelwedd hon yn dangos y cymysgedd o fathemateg a chelf yn ystod y Dadeni yn ogystal â dangos dealltwriaeth ddofn Leonardo o gyfranedd. Yn ôl y testun sy'n ei ganlyn, sydd wedi ei ysgrifennu o chwith, fe'i gwnaed fel astudiaeth o gyfrannau'r corff dynol (gwrywaidd) fel y disgrifir yn De Architectura 3.1.2-3 Vitruvius. Mae'r darlun hwn yn sylfaen i Leonardo ymdrechu cysylltu dyn â natur. Credai fod teithi'r corff dynol yn gyfatebol i deithi'r bydysawd.

Er bod Leonardo yn dangos gwybodaeth eglur am Vitruvius, nid yw ei ddyluniad yn dilyn y disgrifiad o'r testun gwreiddiol. Wrth iddo lunio'r cylch a'r sgwâr mae wedi sylwi na all y sgwâr fod â'r un canol â'r cylch, ac mae felly wedi'i ganoli ar y afl. Yr addasiad hwn yw'r rhan arloesol o ddyluniad Leonardo a'r hyn sydd yn ei wahaniaethu oddi wrth ddarluniau cynharach. Mae hefyd yn ymadawiad o gysyniad gwreiddiol Vitruvius gan ei fod wedi llunio'r breichiau lawer yn uwch na chopa'r pen, yn hytrach na'r ongl lawer is a awgrymodd Vitruvius, lle mae'r breichiau yn ffurfio llinellau sy'n croestorri ar y fogail.

Tarddiad Prynodd Giuseppe Bossi y llun gan Gaudenzio de 'Pagave, a oedd wedi ei disgrifio, ei drafod a'i ddarlunio yn flaenorol. Y flwyddyn ganlynol, echdynnodd y rhan o'i fonograff sy'n ymwneud â Dyn Vitruvius a'i gyhoeddi fel Delle opinioni di Leonardo da Vinci intorno alla simmetria de 'Corpi Umani (1811), gydag ymroddiad i'w ffrind, y cerflunydd Antonio Canova. Ar ôl i Bossi farw yn 1815, prynodd y Gallerie dell'Accademia yn Fenis Dyn Vitruvius yn 1822, yn ogystal â nifer o ddyluniadau eraill Leonardo, ac mae wedi aros yno ers hynny. Ar ôl i'r Louvre wneud cais i'w fenthyca ar gyfer arddangosfa o waith Leonardo yn 2019, dadleuodd sefydliad Italia Nostra fod y dyluniad yn rhy fregus i'w gludo.

c. 1492
Drawingpen, ink and wash on paper
Llun a thestun trwy garedigrwydd Wikipedia, 2023

Ble byddwch chi'n dod o hyd i hwn