Object Image

'Old King Cole'

Gwneuthurwr anhysbys

Y llyfr lleiaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw ‘Old King Cole’, a argraffwyd yn yr Alban yn 1985 gan wasg Gleniffer. Mae'n mesur llai nag 1mm x 1mm, a rhwng 1985 a 1996 roedd y gyfrol fach hon yn y Guinness Book of Records fel y llyfr printiedig lleiaf yn y byd. Mae'r llyfr yn cynnwys yr hwiangerdd Saesneg sy'n dechrau gyda'r geiriau ‘Old King Cole was a merry old soul, and a merry old soul was he’. Mae’r gyfrol yn cynnwys 12 tudalen sengl wedi'u hargraffu, ac fe'i cyhoeddwyd fel argraffiad cyfyngedig o 85 copi. I ddarllen y llyfr hwn byddai angen chwyddwydr neu ficrosgop arnoch, a phin neu nodwydd i droi'r tudalennau. Mae'r ffotograff yn dangos blaen pensil yn pwyntio at y llyfr o fewn y cylch.

1985
Deunydd print
1.0 x 1.0cm
Delweddau a thestun © Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2019

Ble byddwch chi'n dod o hyd i hwn