Object Image

Tabula Prima Europe (Map o Ynysoedd Prydain o Ddaearyddiaeth Ptolemy, 1486)

Cyhoeddwyd yn 1486, dyma’r cofnod daearyddol hynaf o Gymru sydd wedi goroesi ac mae wedi ei dynnu o Geographia, traethawd ar gartograffeg a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn yr 2il ganrif gan y daearyddwr Groegaidd, Claudius Ptolemy. Mae’n un o’r mapiau printiedig cynharaf o Ynysoedd Prydain, a hwn yw'r eitem hynaf yng nghasgliad mapiau’r Llyfrgell Genedlaethol. Nid oes unrhyw gopïau gwreiddiol o’r gwaith wedi goroesi o'r cyfnod Rhufeinig, dim ond fersiynau mwy diweddar sy’n bodoli, mewn llawysgrifau (13eg-14eg ganrif) ac yn brintiedig (15fed-16eg ganrif).
1486
Map
35.0 x 50.0cm
99245550502419
Delweddau a thestun © Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ble byddwch chi'n dod o hyd i hwn