Genedigaeth Gwener
Paentiad tempera ar gynfas gan Sandro Botticelli (1445-1510) yw Genedigaeth Gwener (Eidaleg: La nascita di Venere). Cafodd ei greu gan Botticelli ar gyfer ei noddwr Lorenzo de' Medici tua 1485. Mae i'w cael yn Oriel yr Uffizi yn Fflorens, yr Eidal ac mae'n un o'r gweithiau celf mwyaf adnabyddus yn y byd.
Pwnc y darlun yw genedigaeth y dduwies Gwener (Aphrodite) o'r môr yng Nghyprus - ynys y dduwies. Mae'n adlewyrchu diddordeb dyneiddwyr y Dadeni Dysg ym mytholeg a diwylliant yr Henfyd. Mae'r darlun alegorïaidd yn cynrychioli cyflwyno harddwch i'r byd. Daw Gwener o'r môr mewn cawod o rosynnau ar gragen a yrrir gan dduwiau'r awyr. Wrth iddi baratoi i roi ei throed ar y lan mae nymff yn ymestyn mantell borffor iddi (mae porffor yn lliw a gysylltir â thras uchel a brenhiniaeth fel yn achos "porffor ymerodrol" Ymerawdwyr Rhufain). Mae'r cynfas yn mesur 172.5 × 278.5 cm (67.91 × 109.65 modfedd).
Gwyddom mai Simonetta Vespucci (1453-1476), un o ferched enwocaf y cyfnod yn yr Eidal, oedd y model sy'n portreadu Gwener.