Object Image

Anthem Genedlaethol Cymru (Hen Wlad Fy Nhadau)

Llawysgrif yn cynnwys y copi cynharaf o Hen Wlad Fy Nhadau yn llawysgrifen y cyfansoddwr, James James (1833-1902).

Cyfansoddwyd tôn a geiriau'r gân a fabwysiadwyd yn ddiweddarach fel ein hanthem genedlaethol ym mis Ionawr 1856. Roedd yn ganlyniad cydweithio rhwng tad a mab o Bontypridd: Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-1878), awdur y geiriau, a James James (Iago ap Ieuan, 1833-1902), cyfansoddwr y dôn.

Roedd James yn gerddor a enillai ei fywoliaeth trwy ganu'r delyn yn nhafarnau Pontypridd. Mae'r llawysgrif sy'n cynnwys y copi cynharaf o'r gân Hen Wlad Fy Nhadau yn fath o lyfr ag ynddo bob math o gerddoriaeth offerynnol a chorawl wedi'i gasglu ynghyd ar gyfer ei ddefnydd ei hun gan James. Cynullwyd y deunydd yn y gyfrol rhwng 1849 ac 1863 ac mae'n rhoi syniad o'r math o gerddoriaeth a oedd yn boblogaidd yn ardal Pontypridd yr adeg honno.

Hen Wlad Fy Nhadau (f. 41v.) yw'r unig ddarn yn y llawysgrif lle nodir yn glir taw James yw'r cyfansoddwr. Nodir dyddiad y cyfansoddi fel Ionawr 1856. Yn yr un llawysgrif ceir hefyd fersiwn pedair rhan o God save the Queen gydag un pennill yn Gymraeg (Duw Gadwo'r Frenhines) wedi ei haddasu gan James hefyd.

Ansicr yw'r hanes y tu ôl i gyfansoddi'r anthem genedlaethol. Tybia rhai fod Evan James wedi ysgrifennu'r geiriau cyn i'r dôn gael ei chyfansoddi gan ei fab, a rhai fod y dôn wedi'i chyfansoddi cyn y geiriau. Rhoddwyd yr enw Glan Rhondda iddi yn wreiddiol fel oedd yn gyffredin ar gyfer tônau emynau.

Perfformiwyd y gân am y tro cyntaf yn ysgoldy Capel Tabor (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Maesteg, ym mis Ionawr neu fis Chwefror 1856 gan Elisabeth John, Pontypridd, ac yn fuan, roedd y gân yn boblogaidd yn ardal Pontypridd.

Yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, gwnaed y recordiad sain Cymraeg cyntaf sy'n hysbys, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon a ganodd y diwrnod hwnnw, roedd yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau. Gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae'n para am 1 munud a 17 eiliad.

Testun a delweddau, © Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2019

1856
Sgôr cerddoriaeth
99399754702419

Ble byddwch chi'n dod o hyd i hwn

Cynyddu eich gwybodaeth